Adolygiadau llifogydd haf 2007

Darganfyddwch sut mae’r Llywodraeth ac Asiantaeth yr Amgylchedd wedi ymateb i’r llifogydd.

Dangosodd llifogydd haf 2007 pa mor dueddol y mae cymunedau yng Nghymru a Lloegr i lifogydd, nawr ac yn gynyddol yn y dyfodol. Yn dilyn y llifogydd, cynhaliom adolygiad i ddarganfod beth ddigwyddodd, a sut gellir gwella'r ymateb i lifogydd ar gyfer y dyfodol.

Ein hadolygiad

Rydym yn cynnal adolygiad ar ôl pob llifogydd mawr i amlygu pa wersi y gallwn eu dysgu a'r arfer da y gallwn ei rannu. Gallwn wedyn barhau i wella sut rydym yn rheoli perygl llifogydd a chyfyngu ar y canlyniadau i bobl, yr economi a’r amgylchedd mewn hinsawdd sy'n newid. Cwblhaom ein hadolygiad o lifogydd haf 2007 ym mis Rhagfyr 2007.  

Cewch wybodaeth a dolenni i adroddiadau a gyhoeddwyd yn dilyn llifogydd haf 2007, gan gynnwys adroddiad terfynol Adolygiad Pitt, ymatebion y Llywodraeth iddo, ac adroddiadau cynnydd.

Gallwch edrych ar y data yn ôl ffiniau daearyddol gwahanol, fel ffiniau gweithredol a ffiniau Awdurdodau Lleol.