Is-ddeddfau pysgota llyswennod a llyswennod ifanc â rhwyd

Mae stociau o lyswennod ar lefelau sy'n beryglus o isel, ac mae hyn wedi ysgogi cynllun adfer ledled Ewrop. Rydym am glywed eich barn ar yr is-ddeddfau newydd arfaethedig i reoleiddio pysgota llyswennod a llyswennod ifanc a rhwyd.

Dyddiad dechrau: 15 Mehefin 2009
Dyddiad cau: 7 Medi 2009

Crynodeb o'r ymgynghoriad

Rydym yn ymgynghori ar is-ddeddfau newydd i reoleiddio pysgodfeydd llyswennod a llyswennod ifanc yng Nghymru a Lloegr. Mae stociau o lyswennod ar lefelau sy'n beryglus o isel, ac fel rhan o gynllun adfer ledled Ewrop mae angen i ni adolygu ein his-ddeddfau pysgota llyswennod a llyswennod ifanc â rhwyd.

Mae'r ymgynghoriad yn gofyn am eich barn ar y canlynol:

  • yr angen am gyfnod cau ar gyfer llyswennod ifanc, a dyddiadau arfaethedig ar gyfer y cyfnod cau
  • yr angen am gyfnod cau ar gyfer llyswennod melyn ac arian, a dyddiadau arfaethedig ar gyfer y cyfnod cau
  • is-ddeddf fwy cadarn i wella ansawdd y pysgod a ddychwelir i'r dŵr
  • is-ddeddfau i gyfyngu ar faint daearyddol pysgodfeydd llyswennod melyn ac arian
  • is-ddeddfau i rwystro pysgota llyswennod ifanc â rhwyd mewn mannau lle y maent o dan fygythiad
  • is-ddeddfau i nodi dulliau a chyfarpar ar gyfer pysgota llyswennod ifanc
  • gwahardd y broses o dreillio llyswennod a llyswennod ifanc


Rydym am weld rheoliadau ychwanegol i wella stociau o lyswennod a llyswennod ifanc drwy'r Mesur Mynediad Morol ac Arfordirol a deddfwriaethau eraill.

Dogfennau ymgynghori

Manylion cyswllt

Sut i ymateb

Rydym am i bobl ymateb ar-lein lle bynnag y bo'n bosibl. Mae eich barn yn bwysig i ni.

Ymateb ar-lein   (Nodwch: mae'n rhaid i chi gofrestru - ni fydd hyn yn cymryd llawer o amser)

Os na allwch fynd ar y rhyngrwyd neu os hoffech ymateb drwy'r post, dylech lenwi'r ffurflen yn y ddogfen ymgynghori a'i hanfon at -

Ayesha Taylor
Eel Fishing Byelaws Consultation
Environment Agency
Richard Fairclough House
Knutsford Road, Latchford
Warrington
Cheshire
WA4 1HT

Beth sy'n digwydd nesaf

Pan ddaw'r broses ymgynghori i ben ar 7 Medi 2009, byddwn yn casglu ac yn cyhoeddi crynodeb o'r ymateb ar y rhyngrwyd.  Byddwn yn defnyddio'r ymatebion fel sail i'r broses o lunio is-ddeddfau. Pan fyddwn wedi penderfynu parhau â'r is-ddeddfau newydd, byddwn yn eu hysbysebu yn yr hydref (fel sy'n rhaid i ni wneud yn ôl y gyfraith), gan roi'r cyfle i unrhyw un gynnig sylwadau.  Bydd angen i ni ateb pob ymateb i'r hysbyseb cyn gwneud cais i gael cadarnhad gan y llywodraeth. Rydym yn disgwyl i'r is-ddeddfau gael eu gwneud yn gyfreithiau yn ystod gwanwyn 2010. Byddwch yn gallu gwneud hyn o 29 Mehefin 2009 - ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir gan hyn.