Is-ddeddfau arfaethedig i reoleiddio'r broses o dynnu pysgod o ddŵr gyda gwialen a llinyn
Dyddiad dechrau: 22 Mehefin 2009
Dyddiad cau: 14 Medi 2009
Crynodeb o'r ymgynghoriad
Rydym yn cynnig is-ddeddfau newydd i reoleiddio'r broses o dynnu pysgod o ddŵr -
- Bu dadlau sylweddol am dynnu pysgod bras o ddŵr yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r gyfraith sy'n rheoli'r broses yn aneglur a chyfyngedig.
- Rydym yn cynnig is-ddeddfau newydd a fydd yn cyfyngu ar ba bysgod y gellir eu cymryd o afonydd, nentydd, draeniau, camlesi ac ardaloedd mawr o ddŵr llonydd penodol, ac o dan ba amgylchiadau. Nid ydym yn bwriadu rhoi cyfyngiad ar ba bysgod bras y gellir eu tynnu o'r rhan fwyaf o ddyfroedd llonydd.
- Mae stociau o lyswennod yn beryglus o isel. I warchod llyswennod cyn iddynt ddychwelyd i'r môr i silio, rydym yn argymell y dylid dychwelyd pob llysywen a ddelir gan wialen bysgota i'r dŵr yn fyw.
- Mae gwangod yn debygol o gael eu gwarchod gan y gyfraith yn yr un modd â herlynod. Er mwyn helpu i warchod y ddwy rywogaeth, rydym yn argymell y dylid dychwelyd pob gwangen a ddelir â gwialen bysgota i'r dŵr yn fyw.
Dogfennau Ymgynghori
Fish removal bylaws - English Version (PDF, 116KB)
Is-ddeddfau tynnu pysgod o ddŵr - Fersiwn dwyieithog - Bilingual version (PDF, 298KB)
Sut i ymateb
Rydym am i bobl ymateb ar-lein lle bynnag y bo'n bosibl. Mae eich barn yn bwysig i ni.
Ymateb ar-lein (Nodwch: mae'n rhaid i chi gofrestru - ni fydd hyn yn cymryd llawer o amser)
Os na allwch fynd ar y rhyngrwyd neu os hoffech ymateb drwy'r post, dylech lenwi'r ffurflen yn y ddogfen ymgynghori a'i hanfon at -
Adrian Taylor, Fisheries Policy Manager
Environment Agency
Rio House
Waterside Drive, Aztec West
Almondsbury
Bristol BS32 4UD
Beth sy'n digwydd nesaf
Pan ddaw'r br oses ymgynghori i ben ar 14 Medi 2009 , byddwn yn casglu ac yn cyhoeddi crynodeb o'r ymateb ar y rhyngrwyd. Byddwn yn defnyddio'r ymatebion fel sail i'r broses o lunio is-ddeddfau. Pan fyddwn wedi penderfynu parhau â'r is-ddeddfau newydd, byddwn yn eu hysbysebu yn yr hydref (fel sy'n rhaid i ni wneud yn ôl y gyfraith), gan roi'r cyfle i unrhyw un gynnig sylwadau. Bydd angen i ni ateb pob ymateb i'r hysbyseb cyn gwneud cais i gael cadarnhad gan y llywodraeth. Rydym yn disgwyl y daw'r is-ddeddfau'n gyfreithiau yn 2010.
Manylion Cyswllt
Adrian Taylor