Is-ddeddfau arfaethedig i gael gwared ar y cyfnod cau ar gyfer brithyllod ac eogiaid mewn dyfroedd llonydd

Nid oes angen gwarchod brithyllod nac eogiaid sydd wedi'u stocio mewn pysgodfeydd dŵr llonydd gan gyfnod cau. Rydym yn cynnig dau ddewis i gael gwared ar y cyfnod cau lle nad oes ei angen a lle na fydd yn peryglu stociau o frithyllod gwyllt brodorol.

Dyddiad agor - 22 Mehefin 2009
Dyddiad cau - 14 Medi 2009

Crynodeb o'r ymgynghoriad

Mae cyfnodau cau'n bodoli i warchod pysgod yn ystod cyfnodau silio pan fyddant o dan fygythiad, neu i gyfyngu ar bysgota. Pan gaiff brithyllod neu eogiaid eu stocio mewn dyfroedd llonydd, fel arfer ni ddisgwylir iddynt silio. Fodd bynnag, nid yw'r gyfraith bresennol yn caniatáu i ni gael gwared ar y cyfnod cau ar gyfer y pysgodfeydd hyn.

Bydd y Mesur Mynediad Morol ac Arfordirol yn gwella ein pwerau is-ddeddfu ar gyfer pysgodfeydd. Yn benodol, bydd yn caniatáu i ni gael gwared ar y cyfnodau cau ar gyfer eogiaid a brithyllod mewn dyfroedd llonydd. Rydym o'r farn bod cyfnod cau ar gyfer brithyllod yn gyfyngiad diangen ar ddyfroedd llonydd nad oes ganddynt stociau o frithyllod gwyllt ac sy'n dibynnu ar y broses o stocio. Byddai cael gwared ar y cyfyngiad hwn o fantais i berchnogion pysgodfeydd, clybiau a genweirwyr, a all fwynhau pysgota brithyllod mewn dyfroedd llonydd drwy gydol y flwyddyn.

Mae'r un peth yn wir pan gaiff eogiaid a ffermir eu stocio mewn dyfroedd llonydd caeëdig ar gyfer genweirio. Nid yw eogiaid yn bridio yn y dyfroedd hyn, ac yn ein barn ni, nid oes angen cyfnod cau.

Dogfennau ymgynghori

Manylion cyswllt

Sut i ymateb

Rydym am i bobl ymateb ar-lein lle bynnag y bo'n bosibl. Mae eich barn yn bwysig i ni.

Ymateb ar-lein  (Nodwch: mae'n rhaid i chi gofrestru - ni fydd hyn yn cymryd llawer o amser)

Os na allwch fynd ar y rhyngrwyd neu os hoffech ymateb drwy'r post, dylech lenwi'r ffurflen yn y ddogfen ymgynghori a'i hanfon at -

Adrian Taylor, Fisheries Policy Manager
Environment Agency
Rio House
Waterside Drive, Aztec West
Almondsbury
Bristol  BS32 4UD


Beth sy'n digwydd nesaf

Pan ddaw'r broses ymgynghori i ben ar 14 Medi 2009, byddwn yn casglu ac yn cyhoeddi crynodeb o'r ymateb ar y rhyngrwyd. Byddwn yn defnyddio'r ymatebion fel sail i'r broses o lunio is-ddeddfau. Pan fyddwn wedi penderfynu parhau â'r is-ddeddfau newydd, byddwn yn eu hysbysebu yn yr hydref (fel sy'n rhaid i ni wneud yn ôl y gyfraith), gan roi'r cyfle i unrhyw un gynnig sylwadau. Bydd angen i ni ateb pob ymateb i'r hysbyseb cyn gwneud cais i gael cadarnhad gan y llywodraeth. Rydym yn disgwyl y daw'r is-ddeddfau'n gyfreithiau yn 2010.