PLEASE NOTE this consultation ended on 14 September 2009.
Rydym am glywed gan enweirwyr, perchenogion pysgodfeydd a phartïon eraill sydd â diddordeb am ei gynigion i gael gwared ar y tymor gwaharddedig genweirio ar gyfer brithyllod ac eogiaid mewn dyfroedd llonydd.
Mae tymor gwaharddedig yn diogelu pysgod sy'n silio rhag aflonyddwch. Er hynny, mae'r rhan fwyaf o bysgodfeydd brithyllod dyfroedd llonydd yn dibynnu ar bysgod stoc nad ydynt, ar y cyfan, yn silio yn y gwyllt. Nid oes gan y tymor gwaharddedig unrhyw ddiben defnyddiol yn y sefyllfaoedd hyn ac mae'n atal llawer o enweirwyr rhag mwynhau pysgota brithyllod drwy'r flwyddyn.
Mae llawer o ddyfroedd llonydd yn cefnogi brithyllod gwyllt, yn arbennig yng Nghymru a gogledd-orllewin Lloegr. Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i ddiogelu stociau brithyllod dyfroedd llonydd gwyllt drwy dymor gwaharddedig. Rydym wedi awgrymu dau ddewis ar gyfer gwneud hyn.
Er nad oes llawer o bysgodfeydd eogiaid dyfroedd llonydd, nid yw tymor gwaharddedig o fudd i'r rhai hynny sydd â physgod fferm nad ydynt yn silio. Rydym yn cynnig eithrio'r rhain fesul achos.
Rydym eisoes wedi cael gwared ar y tymor gwaharddedig ar gyfer brithyllod seithliw dyfroedd llonydd a bydd newid yn y gyfraith yn ddiweddarach eleni yn caniatáu i ni wneud yr un fath i frithyllod ac eogiaid dyfroedd llonydd.
Fodd bynnag, cyn i ni wneud hynny, rydym am glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb mewn pysgodfeydd brithyllod ac eogiaid dyfroedd llonydd. Cynhelir ein hymgynghoriad tan 14 Medi.
Edrychwch ar ein cynigion ar gyfer cael gwared ar y tymor gwaharddedig ar gyfer brithyllod ac eogiaid mewn dyfroedd llonydd ac ymatebwch ar-lein.
Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd neu os yw'n well gennych ymateb drwy'r post, ffoniwch 0370 8506506 (rhwng dydd Llun a dydd Gwener, 8am-6pm) gan ddyfynnu “close seasons" i gael copi papur.