Dyddiad cychwyn: 8 February 2010
Dyddiad cau: 5 April 2010
Crynodeb o’r Ymgynghoriad
Buom yn gweithio gydag Aelodau o Fwrdd Asiantaeth yr Amgylchedd a Defra er mwyn adolygu’r Cynllun Aelodaeth EPAC, er mwyn ei symleiddio a darparu mwy o hyblygrwydd ar gyfer aelodau wrth barhau i gwrdd ag amodau Deddf yr Amgylchedd. Mae’r ddogfen hon yn atodi’r Amodau Gorchwyl a ddiweddarwyd yn ddiweddar.
Yn dilyn ymgynghoriad ac yn ôl y gofyn, gan Atodlen 3, Deddf yr Amgylchedd, bydd angen i unrhyw newidiadau i’r Cynllun Aelodaeth gael eu cymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
Byddwch cystal â chynnig eich sylwadau i ni yn erbyn pob adran ar y cynllun diwygiedig.
Sut i ymateb i a gweld dogfennau’r ymgynghoriad
Byddai’n well gennym i chi ymateb ar-lein. Os ydych yn ymateb ar-lein neu roi cyfeiriad e-bost i ni, byddwn yn cydnabod i ni dderbyn eich ymateb ac anfon crynodeb o ymatebion i chi ar ôl i’r ymgynghoriad ddirwyn i ben. Byddwn hefyd yn cyhoeddi crynodeb o ymatebion ar ein gwefan.
Neu, gallwch ymateb trwy e-bost i Rob Ellis.
Os ydych yn ymateb trwy e-bost, er nad oes fformat ffeil wedi’i ragfanylu ar gyfer ymatebion, hoffem dderbyn cyflwyniadau mewn dogfen ar wahân (nid fel newidiadau wedi’u holrhain) ac y gellir eu darllen gyda Microsoft Office neu Adobe Acrobat.
Os ydych yn dymuno i’ch ymatebion gael eu cadw’n gyfrinachol dylech ddatgan hyn yn glir a darparu esboniad paham.
Beth Sy’n Digwydd Nesaf
Ar ôl i’r ymgynghoriad ddirwyn i ben byddwn yn casglu adroddiad at ei gilydd ar yr adborth i’r ymgynghoriad a’i gyhoeddi ar ein gwefan. Bydd hyn yn cynnwys yr holl ymatebion i’r ymgynghoriad. Caiff yr ymatebion eu hystyried pan fyddwn yn cynhyrchu’r ddogfen ganllaw derfynol.