Gallwch ddefnyddio ein Mapiau Llifogydd Cronfeydd Dŵr i weld a allai llifogydd cronfa ddŵr effeithio ar eich ardal. Mae rhagor o wybodaeth am lifogydd cronfa ddŵr yma.
Pa mor ddiogel yw crobfeydd dŵr?
Mae gan gronfeydd dŵr yn y DU hanes da iawn o safbwynt diogelwch heb unrhyw ddigwyddiadau yn arwain at farwolaethau ers 1925. Mae cronfeydd dŵr yn cael eu cynnal a’u cadw’n llawer mwy gofalus bellach. Mae hyn yn golygu bod llifogydd o gronfa ddŵr yn annhebygol iawn.
Ni yw’r awdurdod gorfodi ar gyfer Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 yng Nghymru a Lloegr. Mae’n rhaid i bob cronfa ddŵr fawr gael ei harchwilio a’i goruchwylio gan beirianwyr cronfa ddŵr. Rydym yn sicrhau bod cronfeydd dŵr yn cael eu harchwilio’n rheolaidd a bod gwaith diogelwch hanfodol yn cael ei gyflawni.
Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am gydgysylltu cynlluniau argyfwng ar gyfer llifogydd cronfa ddŵr a sicrhau bod cymunedau wedi paratoi’n drwyadl ar gyfer hynny. Bydd awdurdodau lleol yn gweithio gydag aelodau eraill o’r Fforwm Lleol Cymru Gydnerth i ddatblygu’r cynlluniau hyn.
Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol bod datblygu cynlluniau argyfwng ar gyfer llifogydd cronfa ddŵr yn gyfrifoldeb newydd i awdurdodau lleol. Ni fydd llawer ohonynt wedi cael y cyfle eto i baratoi eu cynlluniau cronfa ddŵr ac efallai na fyddant yn gallu rhoi unrhyw wybodaeth benodol i chi ar unwaith.
Er bod cynlluniau cronfa ddŵr wrthi’n cael eu datblygu, mae gan awdurdodau lleol gynlluniau ymateb brys eisoes y gellir eu defnyddio i ymateb i unrhyw argyfwng.
Sut mae defnyddio mapiau llifogydd cronfeydd dŵr
Mae mapiau llifogydd cronfeydd dŵr ar gael ar-lein i’ch cynorthwyo i weld a allai llifogydd cronfa ddŵr effeithio arnoch chi. Er bod llifogydd cronfa ddŵr yn annhebygol iawn, gallai fod yn ddefnyddiol i chi wybod a ydych yn byw neu’n gweithio mewn ardal a allai gael ei heffeithio. Os ydych chi, gallech ystyried beth fyddech yn ei wneud pe bai argyfwng.
Dylech fod yn ymwybodol mai dim ond mapiau llifogydd ar gyfer cronfeydd mawr a arddangosir. Mae cronfa ddŵr fawr yn dal dros 25,000 metr ciwbig o ddŵr. Ni arddangosir mapiau llifogydd ar gyfer cronfeydd dŵr llai nac ar gyfer cronfeydd dŵr a gomisiynwyd ers dechrau llunio mapiau cronfeydd dŵr yn ystod gwanwyn 2009.
Nid yw’r mapiau’n rhoi unrhyw wybodaeth am ddyfnder neu gyflymder dŵr llifogydd. Mae gan gynllunwyr argyfwng fynediad i’r wybodaeth hon er mwyn iddynt allu datblygu cynlluniau argyfwng effeithiol. Fodd bynnag, nid yw’r wybodaeth hon ar gael i’r cyhoedd oherwydd ei sensitifrwydd.
Mae’r mapiau’n dangos yr ardal fwyaf a allai ddioddef effeithiau llifogydd pe bai cronfa ddŵr yn methu ac yn gollwng y dŵr y mae’n ei ddal. Defnyddiwyd data cenedlaethol cyson i lunio’r mapiau sy’n arddangos y sefyllfaoedd realistig gwaethaf posibl ac sy’n addas at ddibenion cynlluniau argyfwng.
Arweiniad yn unig yw’r mapiau ac nid ydynt yn rhagweld beth fydd yn digwydd.
Cyfarwyddiadau
1. Canfod eich lleoliad ar y map. Gallwch fynd yn syth i’ch ardal drwy chwilio am eich cod post neu enw lle.
2. Os yw’ch ardal wedi’i huwcholeuo yn wyrdd gallai llifogydd cronfa ddŵr effeithio arni. Os ydych am gael rhagor o wybodaeth am y gronfa ddŵr a allai effeithio arnoch chi, cliciwch ar y map o fewn yr ardal sydd wedi’i huwcholeuo.
Rhagor o wybodaeth