Rydym wedi ychwanegu cartrefi a busnesau yn awtomatig at ein gwasanaeth rhybuddio rhag llifogydd. Os ydych wedi derbyn neges ffôn neu lythyr am hyn byddwch yn awr yn derbyn neges ffôn wedi eu recordio pan gyhoeddir rhybudd llifogydd ar gyfer eich ardal.
Cwestiynau cyffredin am rybuddion llifogydd awtomatig
1. Cwestiynau cyffredin am rybuddion llifogydd awtomatig?
Mae eich cyfeiriad chi mewn ardal sydd mewn perygl o lifogydd o'r afonydd neu'r môr. Mae hyn yn golygu eich bod yn cael eich gwasanaethu gan ein gwasanaeth rhybuddio rhag llifogydd a byddwch yn awr yn derbyn negeseuon ffôn awtomatig pan gyhoeddir rhybuddion llifogydd ar gyfer eich ardal. Bydd hyn yn rhoi rhybudd ymlaen llaw i chi am lifogydd ac amser i baratoi.
2. Sut y cawsoch fy rhif ffôn?
Rydym yn gweithio gyda chwmnïau ffôn sy'n rhoi'r rhifau ffôn tir inni ar gyfer eiddo sydd mewn perygl o lifogydd o'r afonydd neu'r môr. Cymerir y rhifau ffôn o'r system a ddefnyddir gan y gwasanaethau brys.
Nid oes gennym unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi na'ch eiddo, a defnyddir eich rhif ffôn i anfon rhybuddion llifogydd atoch yn unig.
3. Beth fydd yn digwydd pan gaf neges?
Pan gyhoeddir rhybudd llifogydd yn eich ardal, anfonir neges wedi ei recordio i'ch rhif ffôn chi. Bydd y neges hon yn dweud wrthych y disgwylir llifogydd yn eich ardal a pha gamau y dylech eu cymryd. Bydd hefyd yn rhoi ein rhif Floodline 24 awr i chi sef 0845 988 1188, i'w alw am fwy o wybodaeth.
4. A allaf dderbyn rhybuddion llifogydd i'm ffôn symudol neu drwy ebost?
Gallwch dderbyn gwasanaeth rhybuddio mwy hyblyg drwy gofrestru ar gyfer gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd Uniongyrchol. Bydd hyn yn caniatáu i chi dderbyn rhybuddion drwy ebost neu neges destun SMS a rheoli eich manylion ar-lein.
5. A alla' i dderbyn rhybuddion llifogydd yn y Gymraeg?
Gallwch dderbyn mwy o wybodaeth a rhybuddion yn y Gymraeg drwy gofrestru ar gyfer gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd Uniongyrchol.
6. Sut y gallaf ddileu'r gwasanaeth hwn?
Credwn eich bod mewn perygl o lifogydd oherwydd mae eich cyfeiriad chi mewn ardal sydd â risg o lifogydd. Gallwch ddefnyddio ein map llifogydd i weld a ydych mewn perygl o lifogydd o'r afonydd a'r môr yn eich ardal. Gallai derbyn rhybuddion rhag llifogydd roi rhybudd ymlaen llaw i chi o lifogydd ac amser i baratoi.
Os nad ydych yn dymuno derbyn rhybuddion llifogydd, galwch ein Gwasanaeth Floodline 24 awr ar 0845 988 1188 a gofynnwch am gael eich enw wedi ei dynnu o'r gwasanaeth.
7. Sut y gallaf baratoi ar gyfer llifogydd?
Derbyn rhybuddion llifogydd yw'r cam cyntaf yn unig yn y gwaith o baratoi ar gyfer llifogydd. Bydd cwblhau cynllun llifogydd yn helpu i'ch cadw chi a'ch teulu yn ddiogel yn ystod llifogydd a bydd paratoi eich eiddo ar gyfer llifogydd yn helpu i gwtogi ar y difrod y gallai llifogydd ei achosi i'ch cartref.