Sut galla i baratoi?

Mae’n bosibl i chi baratoi ar gyfer llifogydd trwy ddilyn rhai camau syml i ostwng effaith llifogydd ar eich cartref neu’ch busnes.

Cofrestru â Rhybuddion Uniongyrchol Floodline

Gwasanaeth rhad ac am ddim yn darparu rhybuddion llifogydd awtomatig dros y ffôn, ffôn symudol, e-bost, neges destun SMS neu ffacs.

Mae’n bosibl cofrestru â Rhybuddion Uniongyrchol Floodline trwy ffonio Floodline ar 0845 988 1188 neu Typetalk 0845 602 6340.

  • Creu cynllun llifogydd

    Gweithredwch yn awr trwy gynllunio'r hyn rydych yn bwriadu ei wneud mewn llifogydd.

  • Paratowch eich eiddo rhag llifogydd

    Mae’n amhosibl sicrhau y gall eich eiddo wrthsefyll pob llifogydd ond mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i leihau’r difrod a achosir gan lifogydd.

  • Arweiniad i berchnogion eiddo glannau afon

    Os ydych chi’n berchen ar dir neu eiddo ar lannau afon neu lwybr dŵr arall, dyma'r canllaw i chi. Mae'n esbonio eich hawliau a'ch cyfrifoldebau fel perchennog eiddo glannau afon.

  • Canllaw i bobl sy'n byw ger cronfeydd dŵr

    Mae’r canllawiau hyn ar gyfer pobl sy’n byw ger cronfa ddŵr. Er bod llifogydd cronfa ddŵr yn annhebygol iawn, efallai eich bod am gael gwybod beth i’w wneud pe bai argyfwng.