Sut i glirio eich cartref ar ôl llifogydd a delio â hawliad yswiriant.
Bob blwyddyn, mae difrod llifogydd yn costio miliynau o bunnoedd. Bydd yn cymryd cyfnod hir cyn i chi allu adfer eich bywyd ar ôl llifogydd.
Darganfyddwch ydy hi’n ddiogel i chi ddychwelyd i’ch eiddo
- Byddwch yn ofalus gan ei bod yn bosibl bod peryglon cudd yn nŵr y llifogydd - pethau miniog, cloriau tyllau archwilio a llygredd.
- Gall dŵr y llifogydd fod wedi achosi niwed saernïol i’ch eiddo.
Ffoniwch eich cwmni yswiriant adeiladau a chynnwys cynted ag sy’n bosibl.
- Ymron pob achos, bydd y cwmni yswiriant yn anfon aseswr colledion i edrych ar eich eiddo. Byddan nhw’n cadarnhau pa waith trwsio ac amnewid sydd angen ac sydd wedi’i gynnwys yn eich polisi. Ask if they will help pay for repairs that will reduce potential flood damage and therefore reduce costs if it happens again
- Os ydych chi’n rhentu eich eiddo, cysylltwch â’ch landlord a’ch cwmni yswiriant cynnwys cynted ag sy’n bosibl.
- Os nad oes gennych yswiriant, dylai eich cyngor lleol allu rhoi gwybodaeth i chi am grantiau caledi neu elusennau a all efallai eich helpu.
- Lawrlwythwch ein taflen am fwy o gyngor ymarferol am beth i’w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd (PDF, 692KB)
Mae’r daflen hon ar gael hefyd mewn tri chanllaw sain:
Noder bod y ffeiliau hyn yn fawr iawn a byddant yn cymryd tipyn o amser i’w lawrlwytho.