Beth ddylwn wneud pan ddaw llifogydd?

Cyngor ar beth i’w wneud er mwyn bod yn ddiogel ac ar glirio ar ôl llifogydd.

Os bydd llifogydd mae’n bwysig canolbwyntio ar eich diogelwch chi a diogelwch eich teulu.

Os yw llifogydd ar fin cyrraedd, GWNEWCH Y PETHAU HYN NAWR:

Os bydd amser, gosodwch unrhyw gynhyrchion amddiffyn rhag llifogydd a allai fod gennych fel: 

  • Estyll
  • Gorchuddion briciau aer 
  • Sachau tywod neu rwystrau llifogydd eraill
  • Byngau ar gyfer toiledau (ar gyfer toiledau ar y llawr gwaelod yn unig)
  • Unrhyw gynnyrch arall ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd

Dylech fod yn barod i weithredu’n gyflym a sicrhau y gallwch gyrraedd man diogel. Diogelwch pobl sydd bwysicaf a gwrandewch ar gyngor yr Heddlu a’r Gwasanaethau Brys. Cofiwch mai eu busnes hwy yw eich bod chi’n ddiogel.

Byddwch yn wyliadwrus rhag llifogydd lleol

Adwaenir hyn hefyd fel 'llifogydd dŵr wyneb'. Bydd hyn yn digwydd fel arfer pan na all y system ddraenio ymdrin â chyfnodau o law trwm. Ni allwn roi rhybudd uniongyrchol i chi ynghylch y math hwn o lifogydd.

Yn lle hynny, rydym yn darogan lle gallai fod problem mewn rhai siroedd ac rydym yn rhoi rhagolwg dyddiol o’r perygl o lifogydd ar ein gwefan. Gallwch gael mwy o wybodaeth am y posibilrwydd o lifogydd ‘dŵr wyneb’ yn eich ardal trwy wirio’r rhagolygon lleol ar gyfer y tywydd.

Mae llifddwr yn beryglus

  • Gall chwe modfedd o ddŵr sy’n llifo’n gyflym eich gwthio drosodd. 
  • Gall dwy o ddŵr olygu bod eich cerbyd yn arnofio.
  • Gall llifogydd ryddhau cloriau tyllau caead, gan olygu peryglon cudd.
  • Peidiwch â cherdded neu yrru cerbyd drwy lifddwr.
  • Peidiwch â gadael i blant chwarae mewn llifddwr.
  • Peidiwch â cherdded ar amddiffynfeydd môr neu lannau afonydd.
  • Pan fydd lefelau dŵr yn uchel, cofiwch y gall pontydd fod yn beryglus i gerdded neu yrru drostynt.
  • Mae cwlferi yn beryglus adeg llifogydd.
  • Cadwch lygad am beryglon eraill fel llinellau trydan a choed sydd wedi cwympo.
  • Golchwch eich dwylo yn lân os byddwch yn cyffwrdd â llifddwr gan y gall fod wedi’i halogi.

This leaflet is also available in three audio guides:

Please note these files are very large and will take time to download.

Gweithredwch yn awr

Ymgofrestrwch ar gyfer derbyn rhybuddion llifogydd gyda’n gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd Uniongyrchol

rhad ac am ddim ni, neu galwch Floodline ar 0845 988 1188 er mwyn siarad â rhywun ynglŷn â llifogydd.

Dolenni allanol

We are not responsible for the content of other web sites.