A yw hyn yn effeithio ar fy yswiriant?

Canfod sut mae’r tebygolrwydd o lifogydd yn eich ardal yn effeithio ar yswiriant eich cartref a beth i’w wneud os oes angen rhoi mwy o wybodaeth i gwmni yswiriant (llythyr cais sy’n ymwneud ag yswiriant – Insurance Related Request Letter (IRR)).

Ein gwaith gyda'r diwydiant yswiriant

Rydym yn cynorthwyo'r Llywodraeth gyda'i gwaith gyda Chymdeithas Yswirwyr Prydain (ABI) i gefnogi ymrwymiad y diwydiant yswiriant i barhau i gynnig yswiriant perygl llifogydd i'r mwyafrif llethol o gartrefi a busnesau mewn ardaloedd perygl llifogydd.

Er enghraifft, rydym yn darparu gwybodaeth i aelodau'r ABI er mwyn helpu yswirwyr i ddarparu yswiriant rhag llifogydd. Mae'r wybodaeth hon yn rhoi asesiad cenedlaethol o'r tebygolrwydd o lifogydd o afonydd a'r môr, gan ystyried amddiffynfeydd rhag llifogydd, a darperir canllawiau manwl hefyd ar sut y gall yswirwyr ei ddefnyddio. Cyhoeddir y wybodaeth ar y Map Llifogydd hefyd, fel bod y rhai mewn perygl o lifogydd yn ymwybodol ac yn gallu cymryd camau i leihau'r perygl iddynt.

Mae'r wybodaeth yn helpu i ddarparu cam cyntaf i yswirwyr er mwyn asesu yswiriant. Mae yswirwyr yn defnyddio'n gwybodaeth gyda'u data eu hunain a gwybodaeth berthnasol arall gan gwsmeriaid i asesu a allant ddarparu yswiriant ac o dan ba delerau.

Bydd y cytundebau cyfredol rhwng Llywodraethau Cymru a Lloegr a'r ABI ar ddarparu yswiriant perygl rhag llifogydd (a elwir yn Ddatganiad o Egwyddorion) yn dod i ben ym mis Mehefin 2013. Bydd rhaid i'r Llywodraethau a'r ABI drafod cyfeiriad yswiriant rhag llifogydd ar gyfer y dyfodol.

Er nad ydym yn gallu dylanwadu ar lefelau yswiriant, rydym yn rhannu nod yr ABI o wella mapiau llifogydd a darparu'r wybodaeth orau bosibl i'r cyhoedd.

Canfod a ydych chi'n byw mewn ardal perygl llifogydd

Gall unrhyw un weld yr un wybodaeth sydd ar gael i gwmnïau yswiriant trwy ddefnyddio ein Map Llifogydd. Trwy ddefnyddio'r Map Llifogydd gallwch weld beth yw'r tebygolrwydd o lifogydd o afonydd a'r môr yn eich ardal.

Efallai y bydd gwybodaeth ychwanegol ar gael gan eich swyddfa Asiantaeth yr Amgylchedd leol.

Beth os yw yswirwyr yn gofyn am ragor o wybodaeth am eich eiddo

Llythyr yw cais sy'n gysylltiedig ag yswiriant (IRR) y mae rhai cwmnïau yswiriant yn ei ddefnyddio i'w helpu i ystyried a fyddant yn adnewyddu eich yswiriant cartref neu'n rhoi dyfynbris newydd i chi.

Mae'r IRR safonol yn rhoi gwybodaeth am:

  • a yw’ch cartref mewn ardal lle ceir perygl o lifogydd ai peidio;
  • a oes yna amddiffynfeydd yn yr ardal a safon yr amddiffyniad mae’r rhain yn ei roi;
  • pa mor debygol yw llifogydd, gan ystyried unrhyw fesurau rheoli risg megis rhwystrau amddiffyn rhag llifogydd yn yr ardal;
  • a oes cynlluniau i gyflwyno mesurau rheoli risg llifogydd  yn yr ardal yn y dyfodol.

Gallwch wneud cais am IRR trwy e-bostio ein Tîm Ymholiadau. Nodwch gyfeiriad llawn yr eiddo a rhif ffôn cyswllt, a chynnwys map os yn bosibl. Bydd y tîm yn ymateb i chi o fewn 20 diwrnod gwaith.

Mae IRR ar gael am ddim i'r cyhoedd. Bydd rhaid i weithwyr masnachol fel cyfreithiwr dalu £50 a TAW am wneud cais.

Cael trafferth cael yswiriant?

Os ydych chi'n cael trafferth cael yswiriant gallech:

  • Siarad ag un o’r broceriaid sy’n arbenigo mewn eiddo sy’n anodd i’w yswirio. Dylech allu dod o hyd i’r broceriaid hyn yn Yellow Pages. Gallwch gael gafael ar frocer ar wefan Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydan neu drwy ffonio’r llinell gymorth broceriaid ar 0870 950 1790.
  • Cysylltu â’r ABI. Gall y Gymdeithas roi manylion yswirwyr posibl i chi.
  • Cysylltu â’r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol (NFF) a allai helpu hefyd. Sefydliad llawr gwlad annibynnol yw’r NFF sy’n cynnig cymorth i’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan lifogydd. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol neu ffoniwch y Fforwm ar 01299 403055.

Am ragor o wybodaeth: