Rhybuddion Llifogydd Uniongyrchol - ein gwasanaeth rhybuddio rhag llifogydd am ddim

Gall ein gwasanaeth rhybuddion llifogydd eich hysbysu ymlaen llaw pan mae llifogydd o afonydd a’r môr yn debygol a rhoi amser i chi baratoi. Mewn rhai rhannau o Loegr, rydym hefyd yn gallu eich hysbysu pan mae llifogydd o ddŵr daear yn bosibl.

The latest weather forecast can be found on the Met Office website:

For the latest travel information visit the Highways Agency website:

Cofrestrwch am rybuddion llifogydd

Mae Rhybuddion Llifogydd Uniongyrcholyn wasanaeth am ddim sy’n anfon neges uniongyrchol pan ddisgwylir llifogydd a gallant effeithio ar eich eiddo.  Bydd rhybuddion llifogydd yn rhoi amser i chi baratoi ar gyfer llifogydd a allai arbed amser, arian a phoen meddwl i chi.  Gallwch dderbyn rhybuddion drwy’r ffôn, ffôn symudol, ebost, neges testun SMS neu ffacs, pa un bynnag sydd orau gennych.

Gallwch hefyd gofrestru am Rhybuddion Llifogydd Uniongyrchol drwy alw Floodline ar 0845 988 1188 neu Typetalk 0845 6026340.

A oes arnoch angen help neu gymorth i baratoi ar gyfer llifogydd?

Hwyrach y bydd angen cymorth ar rai pobl i baratoi ar gyfer llifogydd. Os yw'r gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd Uniongyrchol ar gael yn eich ardal, gallwn drefnu bod unrhyw rybuddion llifogydd ar gyfer eich eiddo yn cael eu darparu hefyd i berthynas neu ffrind, fel eu bod yn ymwybodol y gallech fod angen cymorth. Gallwch drefnu hyn drwy ffonio Floodline ar 0845 988 1188.

Hefyd, gallech ystyried cysylltu â'ch awdurdod lleol, gan fod sawl un ohonynt yn cadw rhestrau o bobl agored i niwed a allai fod angen cefnogaeth ychwanegol mewn argyfwng llifogydd.

Rheolwch eich cyfrif Rhybuddion Llifogydd Uniongyrchol ar-lein

Os ydych eisoes wedi cofrestru ar gyfer ein gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd Uniongyrchol gallwch yn awr ychwanegu neu newid eich gwybodaeth gyswllt ar gyfer rhybuddion llifogydd.  I weld eich cyfrif mae arnoch angen eich cyfeirnod cwsmer a chyfeiriad ebost.  Os nad oes gennych y rhain neu os ydych wedi eu hanghofio, galwch Floodline ar 0845 988 1188.

Mae’n bwysig eich bod yn ein hysbysu os byddwch yn symud tŷ neu bod eich manylion cyswllt yn newid.  Fel hyn gallwn gadw eich cofnodion yn gyfoes a gofalu eich bod yn derbyn rhybuddion am lifogydd pan fydd llifogydd yn taro. 

Rhybuddion Llifogydd Awtomatig

Os ydych yn byw mewn ardal sydd mewn perygl o lifogydd o afonydd neu’r môr efallai eich bod wedi eich ychwanegu yn awtomatig at ein gwasanaeth rhybuddio rhag llifogydd am ddim.  Os ydych wedi eich ychwanegu, byddwn yn anfon neges ffôn neu lythyr atoch i egluro fod hyn wedi digwydd.If you live in an area at risk from flooding from rivers or the sea, you may have been automatically added to our free flood warning service.  If you have been added, we will have sent you a telephone message or letter to explain that this has happened.

Nid yw rhybuddion llifogydd ar gael ym mhob ardal

Os na allwch gofrestru am rybuddion uniongyrchol Floodline mae llawer o bethau eraill y gallech eu gwneud i baratoi am lifogydd.  Y peth pwysig yw gweithredu nawr, cyn i lifogydd ddigwydd.

Os hoffech siarad â ni am berygl llifogydd yn eich ardal chi galwch Floodline ar 0845 988 1188.

Customers in Wales

On 1 April 2013 Natural Resources Wales (NRW) will take over the responsibilities of the Environment Agency in Wales.

To support NRW we will continue to provide this online service until it can be moved to their website.

Please contact NRW with any queries or feedback about this service.

Ymunwch â’r drafodaeth

Cymuned ar Facebook yw Flood Group UK ar gyfer pobl sy’n cael eu heffeithio gan lifogydd neu’n wynebu perygl llifogydd. Ymunwch nawr am gymorth a newyddion ac i rannu eich profiadau.

Dolenni allanol

We are not responsible for the content of other web sites.