Rhanbarthau Asiantaeth yr Amgylchedd

Disgrifiadau ar gyfer rhanbarthau Asiantaeth yr Amgylchedd.

Gallwch chwilio ein gwasanaeth rhybuddio am lifogydd ar-lein yn ôl enw tref, cod post neu enw afon.  Hefyd gallwch weld yr holl rybuddion am lifogydd mewn rhanbarth Asiantaeth yr Amgylchedd drwy glicio ar ranbarth yn y tabl cenedlaethol cryno.

I'ch helpu gyda'ch chwiliadau, mae'r dudalen hon yn darparu rhagor o wybodaeth am ba leoliadau yr ymdrinnir â nhw gan bob rhanbarth Asiantaeth yr Amgylchedd.

Os nad ydych yn sicr pa ranbarth rydych chi ynddi, rydym yn awgrymu eich bod yn ceisio chwilio am rybuddion am lifogydd gan ddefnyddio enw tref neu afon, neu drwy ddefnyddio cod post.

Anglia

Mae'r rhanbarth hon yn cynnwys dwyrain Lloegr, yn ymestyn o Aber Afon Humber, ac o Northampton yr holl ffordd i Arfordir Norfolk. Mae'n cynnwys Caergrawnt a Peterborough.

Canolbarth Lloegr

Mae hwn yn cynnwys canol Lloegr. Mae'n ymestyn o'r ffin gyda Chymru draw i'r Afon Humber yn y gogledd-ddwyrain ac i lawr i Aber yr Afon Hafren. Mae'r rhanbarth yn cynnwys Birmingham, Nottingham, Derby, Caerlŷr, Stoke on Trent, Coventry, Amwythig, Stratford upon Avon, Caerwrangon a Chaerloyw yn ogystal â'r Peak District a gwastadoedd amaethyddol Swydd Amwythig, Swydd Warwick a Swydd Gaerwrangon.

Gogledd-ddwyrain Lloegr

Mae rhanbarth y gogledd-ddwyrain yn ymestyn o frig gogleddol Swydd Derby, yr holl ffordd i fyny i'r ffin gyda’r Alban a draw i arfordir Môr y Gogledd, gan gynnwys gogledd-ddwyrain Lloegr yn ei chyfanrwydd. Mae'n cynnwys Caer Efrog, Sheffield, Leeds a Newcastle upon Tyne.

Gogledd-orllewin Lloegr

Mae rhanbarth y gogledd-orllewin yn ymestyn o Swydd Gaer yn y de i'r ffin gyda'r Alban. Mae'n cynnwys Glannau Merswy a Manceinion Fawr, yn ogystal ag Ardal y Llynnoedd.

De-ddwyrain

Mae'r rhanbarth hwn yn cynnwys Llundain a siroedd y de-ddwyrain i lawr i'r arfordir, ac mae'n cynnwys basn cyfan yr Afon Tafwys, o'i tharddiad yn Swydd Gaerloyw i’w haber yn Essex. Yn ogystal â'r brifddinas, mae gan y rhanbarth nifer o ddinasoedd llai a threfi mawr megis Southampton, Reading, Luton a Swindon, ac ardaloedd gwledig mawr. Mae'r rhanbarth yn cynnwys siroedd cyfan Swydd Rhydychen, Berkshire, Swydd Buckingham, Swydd Hertford, Surrey, Hampshire, Ynys Wyth, gorllewin a dwyrain Sussex, a Chaint, neu’r rhan fwyaf ohonynt.

De-orllewin

Mae'r rhanbarth hon yn cynnwys penrhyn cyfan y de-orllewin, gan gynnwys Cernyw, Dyfnaint, Dorset, Gwlad yr Haf, Bryste, de Swydd Gaerloyw a'r rhan fwyaf o Wiltshire.

Cymru

Mae'n cynnwys Cymru gyfan.