Asiantaeth yr Amgylchedd - cartrefA better place to work

Mapio cyfle a sensitifrwydd amgylcheddol ar gyfer ynni dwr yng Nghymru a Lloegr

Dengys y map isod ardaloedd lle ceir mannau poeth o botensial am ynni dwr yng Nghymru a Lloegr.

You must enable Flash player to see this video

Get Adobe Flash player

Diffiniadau

Sensitifrwydd - Dosbarthir cyfleoedd fel rhai o sensitifrwydd amgylcheddol isel, canolig neu uchel wedi’u seilio ar y rhywogaethau o bysgod sy’n debygol o fod yn bresennol a ph’un ai yw’r safle mewn ardal wedi’i dynodi. Asesiad sylfaenol yw hyn nad yw’n ystyried yr ystod gyflawn o effeithiau amgylcheddol, ac felly mae’n ddangosol yn unig.

Budd i bawb - Tynnu rhwystr, fel rheol, yw’r peth gorau i’w wneud er mwyn gwella gallu pysgod i symud o amgylch afon a chyflawni eu cylchred oes, ond nid yw hyn yn bosibl bob amser. Y dewis gorau nesaf yw cyflwyno llwybr pysgod. Mae cyfleoedd budd i bawb yn gynlluniau sy’n darparu cyfle da ar gyfer ynni dwr ac a fedrent, trwy gynnwys llwybr pysgod, wella statws ecolegol y boblogaeth gysylltiedig o bysgod.

Rhwystrau - Adeiladweithiau o fewn afonydd yw’r rhain a fedrent ddarparu cyfle am ynni dwr ond sydd, yn ogystal, yn rwystrau i symudiadau pysgod. Coredau ydynt gan mwyaf.

Mwy o wybodaeth

Seilir y map ar adroddiad a gomisiynwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd er mwyn asesu potensial ein hafonydd ar gyfer ynni dwr a’r effaith a gawsai eu datblygu ar yr amgylchedd.

Rhwng popeth, canfuwyd dros 25,000 o safleoedd. Mae’r safleoedd hyn yn cynrychioli adeiladweithiau sy’n bodoli eisoes o fewn afonydd fel coredau a Iociau. Yn ogystal â darparu cyfleoedd ynni dwr maent yn rhwystrau i bysgod fedru symud ac ymfudo.

Pe bai cynllun ynni dwr yn cael ei adeiladu ar bob un o’r rhwystrau hyn gallent gynhyrchu 1% o anghenion trydan y DU. Mewn gwirionedd, dim ond rhai o’r safleoedd hyn y gellid eu defnyddio oblegid materion o sensitifrwydd amgylcheddol, yn arbennig yr effaith ar boblogaethau o bysgod ymfudol fel eogiaid a llyswennod, yn ogystal â chyfyngiadau ymarferol fel mynediad i’r rhwydwaith drydan.

Fodd bynnag, daethom o hyd i oddeutu 4,000 o safleoedd ble medrai cynllun a ddyluniwyd yn ystyriol gan gynnwys llwybr pysgod wneud gwelliant gwirioneddol i’r amgylchedd lleol yn ogystal â chynhyrchu trydan. Mae’r mwyafrif o’r cyfleoedd hyn sydd o fudd i bawb ar afonydd fel Hafren, Tafwys, Aire a Nedd.

Lawrlwythiadau

Dogfennau atodlen yn dangos y cyfleoedd ynni dwr fesul rhanbarth